Zechariah 7

Cwestiwn am Ymprydio

1Yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Dareius, ar y pedwerydd o fis Cislef (sef y nawfed mis)
7:1 Yn y bedwaredd … nawfed mis Cislef oedd nawfed mis calendr Babilon, o tua canol Tachwedd i ganol Rhagfyr; pedwaredd blwyddyn teyrnasiad Dareius oedd 518 CC Mae'r dyddiad yma'n cyfateb i Rhagfyr 7, 518 CC yn ein calendr ni.
, dyma'r Arglwydd yn rhoi neges i Sechareia.
2Roedd pobl Bethel wedi anfon Saretser a Regem-melech a'i ddynion i ofyn am fendith yr Arglwydd. 3Roedden nhw hefyd i fynd i deml yr Arglwydd holl-bwerus, a gofyn i'r offeiriaid a'r proffwydi, “Ddylen ni ddal i alaru ac ymprydio yn y pumed mis
7:3 pumed mis Roedden nhw'n gwneud hyn i gofio teml Solomon yn cael ei dinistrio gan y Babiloniaid ar Awst 14, 586 CC, bron saith deg mlynedd cyn hynny – gw. 2 Brenhinoedd 25:8-9
, fel dŷn ni wedi gwneud ar hyd y blynyddoedd?”
7:3 Mae'r ateb i'r cwestiwn yn cael ei roi yn 8:19

4Dyma fi'n cael neges gan yr Arglwydd holl-bwerus. 5“Dywed wrth bobl y wlad, a'r offeiriaid i gyd: ‘Dych chi wedi bod yn ymprydio ac yn galaru yn y pumed a'r seithfed mis
7:5 seithfed mis Ympryd i gofio llofruddiaeth Gedaleia (sef y dyn gafodd ei benodi gan y Babiloniaid i reoli Jwda ar ôl iddyn nhw goncro'r wlad) – gw. 2 Brenhinoedd 25:22,25 a Jeremeia 41:1-3.
ers saith deg mlynedd. Ond ydych chi wir wedi bod yn gwneud hynny i mi?
6Na, fel pan dych chi'n yfed a gwledda, dych chi'n ei wneud i blesio'ch hunain!’ 7Dyna'n union beth roedd yr Arglwydd yn ei ddweud drwy ei broffwydi bryd hynny e, pan oedd Jerwsalem a'r pentrefi o'i chwmpas yn ffynnu, a pobl yn byw yn y Negef i'r de a'r iseldir yn y gorllewin.”

Y rheswm am y Gaethglud

8A dyma Sechareia'n cael neges arall gan yr Arglwydd. 9“Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus wedi bod yn ei ddweud,

‘Byddwch yn deg bob amser,
yn garedig a thrugarog at eich gilydd.
10Peidiwch cam-drin gwragedd gweddwon,
plant amddifad, mewnfudwyr a phobl dlawd. f
A peidiwch bwriadu drwg i unrhyw un arall.’

11“Ond doedden nhw'n cymryd dim sylw. Roedden nhw'n hollol benstiff, ac yn gwrthod yn lân a gwrando. 12Roedd eu calonnau'n galed fel diemwnt g, nes eu bod yn gwrthod gwrando ar fy nysgeidiaeth, nac ar y negeseuon eraill roedd fy Ysbryd wedi eu rhoi i'r proffwydi cynnar yna eu cyhoeddi. A dyna pam wnaeth yr Arglwydd holl-bwerus dywallt ei lid arnyn nhw.

“Dwedodd yr Arglwydd holl-bwerus.

13‘Pan oeddwn i'n galw arnyn nhw,
doedden nhw ddim yn gwrando.
Felly pan fyddan nhw'n galw arna i,
fydda i ddim yn gwrando chwaith. h
14Yn lle hynny bydda i'n eu hysgubo nhw i ffwrdd
mewn storm i wledydd dieithr.’

“A dyna pam mae'r wlad yma'n anial, heb neb yn mynd a dod ynddi. Nhw sydd wedi gwneud y tir hyfryd yma yn anialwch diffaith!”

Copyright information for CYM